Trawsrywedd |
---|
Hunaniaethau |
Androgynedd · Anneuaidd · Dau-Enaid · Dyn traws · Kathoey · Menyw draws · Trydydd rhywedd |
Pynciau |
Cwestiynu · Trawsrywioldeb |
Agweddau clinigol a meddygol |
Dysfforia rhywedd · Llawdriniaeth ailbennu rhyw · Therapi hormonau trawsryweddol |
Agweddau cyfreithiol a chymdeithasol |
Cydnabyddiaeth gyfreithiol · Symbolau · Trawsffobia · Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 |
Rhestrau |
Pobl |
Categori |
Y diagnosis ffurfiol a ddefnyddir gan seicolegwyr a meddygon i ddisgrifio personau sy'n teimlo bod ganddynt hunaniaeth ryweddol sy'n wahanol i'w rhyw biolegol yw anhwylder hunaniaeth ryweddol neu ddysfforia rhywedd. Dosbarthiad seiciatrig sy'n disgrifio'r problemau sy'n ymwneud â thrawsrywioldeb, hunaniaeth drawsryweddol, a thrawswisgo ydyw. Dyma yw'r dosbarthiad diagnostig a gymhwysir gan amlaf at drawsrywiolion.
Dyfynnodd Harry Benjamin, endocrinolegwr ac un o'r meddygon cyntaf i gynorthwyo trawsrywiolion wrth gael llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw, o lythyr a dderbyniodd wrth Dr Christian Hamburger, y meddyg a wnaeth drin Christine Jorgensen:[1]
These many personal letters from almost 500 deeply unhappy persons leave an overwhelming impression. One tragic existence is unfolded after another; they cry for help and understanding. It is depressing to realize how little can be done to come to their aid. One feels it a duty to appeal to the medical profession and to the responsible legislature: do your utmost to ease the existence of these [people] who are deprived of the possibilities of a harmonious and happy life—through no fault of their own.